Mae’r dystiolaeth yn glir: dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, yn yr un modd â Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae yna gymhelliad newydd yn sgil diwygiadau plismona parhaus ac ar ôl i Lywodraeth y DU gael gwared ar Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, a byddwn yn pwyso am ddatganoli hyn yn llawn gyda’r synnwyr o frys y mae’n ei haeddu.
Wrth i ni baratoi ar gyfer datganoli, byddwn yn gosod y sylfeini ar gyfer system gyfiawnder i Gymru sy’n gydlynol, yn ataliol ac yn addas i Gymru.
Byddwn yn:
- Cyflwyno Bil Tribiwnlysoedd Cymru yn gynnar yn nhymor y Senedd, i greu system tribiwnlysoedd fwy clir, cydlynol ac annibynnol – gyda gweithdrefnau mwy modern, atebolrwydd cryfach, a ffocws cliriach ar ddefnyddwyr.
- Ehangu prentisiaethau cyfreithiol yng Nghymru a gweithio gyda’r proffesiwn, rheoleiddwyr a darparwyr hyfforddiant i ddatblygu llwybrau lefel uwch, gan gynnwys llwybrau ar lefel cyfreithwyr, er mwyn i fwy o bobl allu cymhwyso a datblygu gyrfaoedd ym maes y gyfraith yng Nghymru.
A phan fydd pwerau’n cael eu datganoli, byddwn yn adeiladu system gyfiawnder yng Nghymru lle:
- Mae cyfiawnder ieuenctid yn cael ei drawsnewid – gan godi oedran cyfrifoldeb troseddol, rhoi’r gorau i garcharu troseddwyr yn ganolog a’u hadsefydlu’n lleol yn lle, a gwreiddio cyfiawnder adferol ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
- Mae anghenion penodol pobl niwrowahanol yn cael eu cydnabod ac mae iechyd meddwl, dibyniaeth, a gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu hintegreiddio’n llawn i’r gwasanaeth prawf, gan ddarparu cymorth mwy effeithiol ar gyfer adsefydlu a lleihau aildroseddu.
- Mae plismona yng Nghymru yn seiliedig ar hawliau ac yn atebol i’r Senedd, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch cymunedol drwy ddulliau atal sy’n cael eu harwain gan ddata, a phartneriaeth â chymunedau lleol.
Yn y lle cyntaf, byddwn yn gwneud mwy i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi troseddu. Byddwn yn sefydlu Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Atal Troseddu er mwyn:
- Cryfhau data penodol i Gymru ar droseddu, dedfrydu, plismona, carchardai a chanlyniadau, i gefnogi’r gwaith o lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Cydlynu’r gwaith o atal a dargyfeirio troseddau ar draws heddluoedd, y GIG, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid yn y trydydd sector – gan rannu’r arferion gorau a mynd i’r afael â’r pethau sylfaenol sy’n achosi troseddu.
- Cefnogi strategaethau ymyrraeth gynnar, cyfiawnder adferol a dargyfeirio i leihau troseddu a gwneud cymunedau’n fwy diogel.
- Ehangu Model Caerdydd yn genedlaethol, gan ddefnyddio data dienw o ysbytai mewn perthynas ag anafiadau treisgar i dargedu camau ataliol mewn mannau lle ceir llawer o droseddu treisgar, ac i archwilio sut y gellir cymhwyso hyn a dulliau arloesol eraill i ystod ehangach o droseddau.
Byddwn yn cynnal cymorth Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs).
Byddwn yn ceisio ymestyn Safonau’r Gymraeg a gweithio i sicrhau mwy o integreiddio rhwng addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd datganoledig mewn carchardai, gan sicrhau mynediad at wasanaethau yn Gymraeg, a gwella’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n gadael y carchar.
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i leihau’r effaith anghymesur y mae’r ‘ffin arw’ rhwng cyfrifoldebau datganoledig a chyfrifoldebau heb eu datganoli yn ei chael ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys sicrhau bod llai o fenywod sy’n cael eu dedfrydu yng Nghymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, ymhell o’u teuluoedd a’u rhwydweithiau cymorth.