Rydyn ni wedi ymrwymo i’r model cymdeithasol o anabledd – gan gydnabod mai rhwystrau cymdeithasol ac nid amhariadau unigol yn unig sy’n anablu pobl.
Gan fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau o gael gwared ar y rhwystrau hyn a hybu tegwch a chynhwysiant go iawn i bobl anabl, byddwn yn:
- Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru drwy Ddeddf Hawliau Dynol i Gymru.
- Darparu Cynllun Gweithredu cadarn ar Hawliau Pobl Anabl sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu, gyda llinellau atebolrwydd clir ac adroddiadau rheolaidd a thryloyw ar gynnydd.
- Cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan, hybu mynediad cyfartal a hyrwyddo arweinyddiaeth pobl anabl mewn bywyd cyhoeddus, proffesiynol a gwleidyddol yng Nghymru.
- Sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus Cymru – a bod seilwaith ffisegol a digidol yn cael ei ddylunio i hybu hygyrchedd ac annibyniaeth.