Byddwn yn adeiladu ar ein gwaith yn darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgol gynradd drwy sicrhau bod pob disgybl ysgol uwchradd o gartref sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim – gan gael gwared ar y terfyn enillion presennol o £7,400.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn i fyfyrwyr ysgolion uwchradd sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus ac sy’n byw mewn cartrefi ag incwm heb fod yn uwch na throthwyon Credyd Cynhwysol cyfatebol.