Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai taliadau arian wedi’u targedu i deuluoedd incwm isel yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol o leihau tlodi plant yn gynaliadwy.
Mae’r dull hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Alban drwy Daliad Plant yr Alban, sy’n helpu i godi degau o filoedd o blant allan o dlodi.
Byddwn yn treialu Cynnal, Taliad Plant Cymru, gan roi £10 yr wythnos ar gyfer plant 0-6 oed mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd y cynllun peilot yn cael ei gyflwyno i ddechrau mewn nifer cyfyngedig o ardaloedd awdurdodau lleol, a fydd yn cael eu dewis gan ddefnyddio meini prawf gwrthrychol fel rhan o ddyluniad y cynllun peilot.
Bydd y cynllun peilot yn cael ei ddefnyddio i adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn ac i lywio’r gwaith o gyflwyno’r taliad ledled Cymru.