Cartrefi cynhesach sy’n fwy ynni-effeithlon

Mae cartrefi yng Nghymru yn tueddu i fod yn hŷn ac mewn cyflwr gwaeth nag mewn rhannau eraill o’r DU, sy’n golygu ei bod yn anoddach ac yn ddrutach eu gwresogi. Gallai cynllun effeithiol i ôl-osod ac uwchraddio cartrefi helpu aelwydydd i arbed mwy na 10% ar eu biliau tanwydd blynyddol.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod adnewyddu stoc dai Cymru yn genhadaeth genedlaethol – gan fynd yr ail filltir i wella safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon cartrefi yn gyflymach.

Gan ddiogelu cymorth mewn argyfwng i’r rhai mewn tlodi tanwydd difrifol, byddwn yn ehangu mynediad at gynlluniau ôl-osod drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n niwtral o ran deiliadaeth ac yn seiliedig ar ardal. Mae hyn yn golygu gweithio tuag at ddulliau sy’n uwchraddio cartrefi ar draws ardal benodol – cartrefi perchen-feddianwyr, cartrefi rhent a chartrefi cymdeithasol – fel bod aelwydydd yn elwa gyda’i gilydd yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar geisiadau unigol.

Bydd ein rhaglen ôl-osod newydd yn:

  • Mabwysiadu safonau effeithlonrwydd ynni ymarferol a chyraeddadwy a fydd yn galluogi mwy o gartrefi i gael eu huwchraddio’n gyflymach ac yn fwy cost-effeithiol, gan ddefnyddio’r un adnoddau.
  • Mabwysiadu dull cartref cyfan, gan flaenoriaethu’r mesurau inswleiddio mwyaf cost-effeithiol – fel atal drafftiau, inswleiddio’r atig, ac inswleiddio waliau ceudod – gan ychwanegu atebion gwresogi glân fel pympiau gwres lle maen nhw eisoes yn gost-effeithiol, neu baratoi cartrefi ar gyfer eu gosod yn y dyfodol pan fyddan nhw’n fwy cost-effeithiol.
  • Grymuso cymunedau i gydweithio er mwyn cynllunio a gwneud cais am fentrau ôl-osod ar draws ardaloedd, gan ddefnyddio hybiau siop-un-stop fel canolbwynt – lle gall deiliaid tai gael gafael ar gymorth, arweiniad a chyngor arbenigol ar welliannau i gartrefi, ac ar optimeiddio atebion ynni cydweithredol sy’n eiddo i’r gymuned.
  • Cysylltu deiliaid tai â’r opsiynau cyllido gorau ar gyfer uwchraddio eu cartrefi, gyda chymorth wedi’i deilwra i’r rhai sydd ar yr incwm isaf.
  • Sefydlu proses rheoli ansawdd newydd i fonitro safonau’r gwaith a wneir gan osodwyr sy’n gweithredu gyda chyllid a gyfarwyddir gan gynlluniau’r llywodraeth ar gyfer effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan gynnwys y gofyniad bod asesiad annibynnol yn cael ei gynnal a bod y gwaith yn cael ei ystyried yn foddhaol cyn talu.
  • Cyflymu llwybrau sgiliau perthnasol – gan gynnwys drwy brentisiaethau – i dyfu’r gweithlu, a sicrhau bod mwy o wasanaethau’n cael eu darparu gan fusnesau yng Nghymru.
  • Adolygu a diweddaru rheoliadau cynllunio, gan gynnwys rhoi hawliau datblygu a ganiateir cliriach ar waith ar gyfer pympiau gwres ac ynni adnewyddadwy mewn cartrefi.

Bydd y rhaglen yn gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w rhedeg, yn ogystal â thyfu’r economi werdd, lleihau allyriadau carbon, gwella canlyniadau iechyd a rhoi Cymru ar flaen y gad o ran gweithredu’n gynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn ymarferol ar yr hinsawdd.


Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio: darllen mwy