Mae nifer y rhentwyr yng Nghymru wedi tyfu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag 1 cartref o bob 6 bellach yn rhentu’n breifat. Mae rhentwyr yng Nghymru yn fwy agored i niwed na’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU ac nid oes ganddynt fesurau diogelu tebyg.
Byddwn yn cyflwyno mesurau newydd i ddiogelu rhentwyr yn well, gan gynnwys:
- Rhoi diwedd ar droi tenantiaid allan heb fai, a rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth i rentwyr, yn ogystal â chyfyngu ar ddarpar denantiaid yn bidio am rent drwy fynnu bod eiddo’n cael ei osod ar y pris a hysbysebir, a chyfyngu ar y rhent sy’n daladwy ymlaen llaw.
- Gosod rhenti teg – drwy gyfyngu ar godiad blynyddol rhent yn unol â thwf cyflogau neu chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr – pa bynnag un sydd isaf, neu feincnod cyfatebol sydd wedi’i ddiffinio’n glir.
- Rhoi hawl gyfreithiol i rentwyr ofyn am gael cadw anifail anwes, lle nad yw landlordiaid yn gallu gwrthod yn afresymol.
- Gwella ansawdd cyffredinol eiddo rhent, gan adfer peryglon fel lleithder a llwydni yn brydlon.
- Cryfhau gorfodaeth, gwella diogelwch tenantiaid, ac ehangu rôl reoleiddiol Rhentu Doeth Cymru – gan weithio i sicrhau bod arian sy’n cael ei gasglu drwy ddirwyon yn cael ei gadw yng Nghymru, yn hytrach na’i ddychwelyd i Drysorlys y DU.
Er mwyn sicrhau bod llochesi i ddioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu gweithredu’n ddiogel ac yn briodol, byddwn yn eu heithrio o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y diwygiadau pellach rydyn ni’n eu hamlinellu yma wedi’u llunio i ddiwallu anghenion unigryw’r gwasanaethau hanfodol hyn.
Byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddad-rewi’r Lwfans Tai Lleol i leihau’r bwlch rhwng rhent a budd-dal tai, lleihau’r risg o ddigartrefedd i filoedd o deuluoedd, a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cynnydd mewn rhenti.