Bydd Plaid Cymru yn adnewyddu’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol – gan sicrhau eu bod yn bartneriaid llawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Byddwn yn gwneud y canlynol:
- Adolygu’r fformiwla gyllido ar gyfer llywodraeth leol fel ei bod yn adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru yn well, a chyflwyno cyllid gwaelodol i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod lleol dan anfantais.
- Darparu mwy o gyllid craidd i awdurdodau lleol ei ddyrannu i wasanaethau a blaenoriaethau a bennir yn lleol, a lleihau faint o gyllid sy’n cael ei ddyrannu i gynghorau drwy gyllid grant tameidiog a chystadleuol – gan leihau biwrocratiaeth a’r amser sy’n cael ei wastraffu ar geisiadau grant nad ydynt bob amser yn llwyddiannus.
- Cydweithio â chynghorau ar ddiwygiadau ariannol – gan gynnwys y Dreth Gyngor ac ardrethi busnes, yn ogystal â gweithredu’r ardoll Twristiaeth – gan gynnwys sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd gwasanaethau rheng flaen.
- Cefnogi cynghorau i ddarparu ac ehangu mynediad at wasanaethau sy’n cael eu gyrru’n ddigidol, a chyflawni Safonau Gwasanaethau Digidol.