Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cyflymu’r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol dros dymor nesaf y Senedd, gan fynd i’r afael â digartrefedd, cadw pobl allan o lety dros dro anaddas, torri rhestrau aros, a gwneud tai’n fwy fforddiadwy i bawb.
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol i ddarparu cartrefi newydd o ansawdd uchel, ac i adfer tai gwag i’w defnyddio fel tai cymdeithasol – gan ddarparu o leiaf 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030.
Byddwn yn:
- Datblygu ein dealltwriaeth o’r angen am dai drwy gynnal Arolwg Tai Cymru yn rheolaidd a sicrhau gwell safonau data.
- Lleihau'r rhwystrau rheoleiddiol sy’n atal rhagor o dai cymdeithasol rhag cael eu hadeiladu a’u prynu, gan gynnwys drwy ofynion effeithlonrwydd ynni mwy cytbwys.
- Annog cronfeydd pensiwn Cymru i fuddsoddi mewn adeiladu tai, ac edrych ar yr opsiynau ar gyfer datblygu cynnyrch ariannol newydd drwy Fanc Datblygu Cymru, a drwy ddefnyddio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru yn well.
Byddwn hefyd yn sefydlu hawl gymunedol i brynu, gan gynnwys prynu tir ar gyfer tai, ac yn cefnogi tai dan arweiniad y gymuned fel ffordd o ddarparu tai fforddiadwy sy’n diwallu anghenion lleol.
Er mwyn gwella mynediad at dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn benodol, byddwn yn edrych ar opsiynau i ymestyn hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer anheddau sengl a throsi adeiladau fferm ar gyfer defnydd preswyl.