Cynllunio

Wrth ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru, byddwn yn:

  • Mabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n diogelu ac yn cryfhau arweinyddiaeth leol wrth bennu blaenoriaethau cynllunio.
  • Diwygio prosesau ymgynghori i roi pŵer go iawn i gymunedau ddylanwadu ar gynlluniau datblygu lleol, a sicrhau bod modd diwygio’r cynlluniau hyn mewn ymateb i newidiadau amser real mewn anghenion tai lleol.
  • Gwneud prosesau cynllunio yn llai cymhleth a biwrocrataidd, gan roi mwy o eglurder a sicrwydd o ran amserlenni cydsynio, ac ymestyn hawliau datblygu a ganiateir – gan gynnwys ar gyfer prosiectau tai ac ynni dan arweiniad y gymuned, ac ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.
  • Defnyddio’r arferion gorau a hybu defnydd mwy effeithiol o gytundebau Adran 106 i gryfhau’r broses gynllunio ei hun – gan wella eglurder, cyflymu’r broses gwneud penderfyniadau, a sicrhau bod datblygiadau’n esgor ar fanteision lleol amlwg.
  • Gwreiddio ystyriaeth i’r Gymraeg yn y system gynllunio, gan weithio gydag awdurdodau lleol i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gynllunio gwlad a thref.

Cynllunio dan arweiniad y gymuned: darllen mwy