Datblygu Rhanbarthol a Strategaeth Ofodol

Rhwng Ardaloedd Buddsoddi, Ardaloedd Menter a Thwf Deallusrwydd Artiffisial, Porthladdoedd Rhydd, Bargeinion Twf Dinesig a Rhanbarthol, Cymdogaethau Blaengar, a rhaglenni Twf Lleol a Balchder Bro, mae Cymru wedi dod yn glytwaith o fentrau rhanbarthol sy’n gorgyffwrdd ac yn gwrthdaro o ran eu blaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a thymor hir – rhai wedi’u llunio yng Nghymru, eraill wedi’u gorfodi arnom gan San Steffan.

Mae’r system dameidiog yma’n golygu nad yw arian cyhoeddus yn cael ei wario mor effeithiol ag y dylai. Ac mae diffyg strategaeth ofodol glir yn gwaethygu hyn. Mae gormod o ddyblygu a gorgyffwrdd rhwng Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a dydy ôl troed daearyddol y rhain a chyrff eraill ddim yn gydlynol.

Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol presennol wedi methu ag integreiddio’r mentrau a’r strwythurau hyn i greu fframwaith rhesymegol ar gyfer Cymru gyfan.

Er mwyn ailwampio’r maes cynllunio gofodol a datblygu rhanbarthol yng Nghymru, byddwn yn cynhyrchu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd, sy’n rhoi gweledigaeth a goruchwyliaeth strategol go iawn.

Bydd gweithio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol yn rhan ganolog o hyn, er mwyn:

  • Cytuno ar ddull cydweithio rhanbarthol mwy effeithiol sy’n cael ei arwain gan gynghorau.
  • Creu map rhanbarthol newydd a chynllun i’w roi ar waith.

Y nod fydd grymuso llywodraeth leol; lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu; a chreu mwy o gydlyniad rhwng olion traed strwythurau rhanbarthol.

Bydd strwythurau llywodraeth yng Nghymru – gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, awdurdodau unedol a strwythurau rhanbarthol – yn cael eu hadolygu’n barhaus i sicrhau eu bod yn dal yn addas i’r diben. A lle bo modd hybu datblygiad rhanbarthol a lleol yn effeithiol a gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, byddwn yn rhoi mwy o ryddid i awdurdodau lleol gydweithio â’i gilydd ar brosiectau ar y cyd y tu allan i strwythurau rhanbarthol presennol.

Drwy weithio gyda Llywodraeth y DU lle bo hynny’n berthnasol – gan gynnwys i sicrhau bod cyllid datblygu rhanbarthol yn cael ei ddatganoli’n llawn – byddwn yn adolygu’r holl fentrau rhanbarthol yn erbyn eu nodau eu hunain ac yn erbyn ein Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd ni, gan sicrhau y gwneir y defnydd gorau o arian cyhoeddus, a bod rhaglenni nad ydynt yn cyflawni yn cael eu disodli neu eu dirwyn i ben.


Cynllunio dan arweiniad y gymuned: darllen mwy