Canolbwyntio ar ein blaenoriaethau

Byddwn yn newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau ei bod wir yn cyflawni dros bobl Cymru.

Yn hytrach na gwasgaru adnoddau’n rhy denau ar draws gormod o fentrau’r llywodraeth, byddwn yn eu targedu at ein blaenoriaethau allweddol – torri rhestrau aros, cefnogi teuluoedd gyda chostau byw, creu swyddi da sy’n talu’n dda, codi safonau addysgol a mynd i’r afael â thlodi plant.

Byddwn yn gweithio gyda gwasanaeth sifil Cymru i adolygu a diwygio ffyrdd o weithio er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau, gan greu gwasanaeth cyhoeddus cydlynol ac effeithiol yng Nghymru sy’n agored, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar wella bywydau pobl. Byddwn yn gosod targedau heriol, yn sbarduno newid diwylliannol ac yn seilio ein gwaith ar dystiolaeth a data o ansawdd uchel. A byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Ysgol Lywodraethu Genedlaethol Cymru.

Fel rhan o Strategaeth Ddigidol ehangach i Gymru, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn blaenoriaethu arloesedd, gan gynnwys o ran sut mae technolegau digidol yn cael eu defnyddio ar draws y llywodraeth – gan wella mynediad at wasanaethau a chryfhau’r defnydd o ddata i sbarduno’r gwaith o lunio polisïau ar sail tystiolaeth.

Byddwn yn penderfynu a yw’r strategaethau a’r strwythurau presennol yn cyflawni eu pwrpas, ac yn arwain at ganlyniadau ystyrlon. Os nad ydyn nhw, byddwn yn eu disodli neu’n eu dirwyn i ben.

Rydyn ni’n falch iawn o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n gosod esiampl yn fyd-eang. Fodd bynnag, mae gweithredu’r Ddeddf wedi arwain yn rhy aml at gynlluniau a strategaethau ailadroddus sy’n gorgyffwrdd, yn hytrach na chanlyniadau gwirioneddol sy’n gwella bywydau pobl.

Bydd Plaid Cymru yn adolygu’r Ddeddf ac yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau ei bod yn arwain at newid ystyrlon a mesuradwy, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru.


Arwain Cymru o'r Newydd: darllen mwy