Cymru a’i lle yn y byd

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn falch o fod ag agwedd ryngwladol, ac yn cymryd ei chyfrifoldebau byd-eang o ddifrif. Byddwn yn meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn seiliedig ar ein gwerthoedd – gan hybu democratiaeth a chyfiawnder cymdeithasol, cydweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd, diogelu hawliau cenhedloedd bach ac ieithoedd lleiafrifol, a hybu heddwch a chydweithrediad drwy sefydliadau rhyngwladol.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sefyll dros heddwch, cyfiawnder a pharch at gyfraith ryngwladol – yn union fel y gwnaeth Plaid Cymru safiad cadarn ac egwyddorol ar Gaza.

Y ffordd orau o ofalu am les pennaf Cymru yw dychwelyd i fod yn aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd. Yn y tymor byr, byddwn yn:

  • Parhau i ddadlau y dylai’r DU geisio ailymuno â’r farchnad sengl a’r undeb tollau ar frys – i hybu masnach a dechrau dad-wneud y difrod gwerth £4 biliwn y mae Brexit wedi’i achosi i economi Cymru.
  • Mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cael cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau am faterion Ewropeaidd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar Gymru.
  • Cyflwyno Strategaeth Ewropeaidd newydd, wedi’i hategu gan Ddeddf Cydweddu Ewropeaidd – i’n galluogi i fod yn gyson â safonau blaenllaw Ewrop mewn meysydd sy’n cynnwys diogelu’r amgylchedd, iechyd y cyhoedd, a safonau bwyd.
  • Gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu byw, astudio a gweithio yn Ewrop – gan gynnwys drwy fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru nawr bod y DU wedi ailymuno â chynllun Erasmus, ac archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y rhaglen Taith, sy’n benodol i Gymru.

Fel ein cymydog Ewropeaidd agosaf a gwlad y mae gan Gymru berthynas ddiwylliannol a masnachol â hi ers tro byd, byddwn yn ceisio adeiladu ar ein cysylltiadau ag Iwerddon drwy ddatblygu fframwaith cydweithredu dwyochrog newydd a chynhwysfawr.


Arwain Cymru o'r Newydd: darllen mwy