Does dim amau’r achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru – fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Comisiwn Silk, Comisiwn Thomas ac, yn fwyaf diweddar, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyflwyno’r achos yn bendant.
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am feysydd sy’n rhyngweithio’n uniongyrchol â phlismona a’r system gyfiawnder – iechyd, addysg, tai a gwasanaethau cymdeithasol – gan gynnwys darparu’r gwasanaethau hyn mewn carchardai ac i droseddwyr ifanc. Ond mae plismona, y llysoedd a’r carchardai eu hunain i gyd wedi’u cadw’n ôl i San Steffan. Mae hyn yn golygu ei bod yn amhosib diwygio’r system gyfiawnder yng Nghymru mewn ffordd ystyrlon, ac mae’n llawer anoddach darparu gwasanaethau mewn ffordd gydlynol ac effeithlon sy’n sicrhau’r gwerth am arian neu’r canlyniadau sydd eu hangen a’u heisiau arnom.
Tynnu sylw oddi wrth yr hyn sy’n bwysig fyddai unrhyw waith pellach ynghylch a ddylid datganoli cyfiawnder a phlismona, ac mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gymhelliad arall dros ddatganoli’r pwerau hyn.
Byddwn yn pwyso am ddatganoli cyfiawnder a phlismona fel blaenoriaeth.