Nid rhestrau caeedig oedd yr opsiwn roedden ni’n ei ffafrio i ddiwygio system etholiadol y Senedd. Mae angen system bleidleisio deg ar Gymru sy’n gymesur, yn gynrychioliadol, ac yn rhoi dewis go iawn i bleidleiswyr.
Wrth i ni weithio i gryfhau ein democratiaeth, byddwn yn:
- Defnyddio’r mecanwaith adolygu yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) i gynnal adolygiad llawn o drefniadau etholiadol y Senedd, gan archwilio iechyd democratiaeth yng Nghymru. Ar yr un pryd, byddwn yn nodi llwybrau cyfreithiol i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau.
- Ystyried cyngor gan y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ar sut i roi mwy o lais i bobl yng Nghymru wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth.
- Gweithio i greu mwyafrif trawsbleidiol ar gyfer mabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau’r Senedd yn y dyfodol, ac archwilio opsiynau ar gyfer arloesi, fel rhannu swyddi ar gyfer ymgeiswyr y Senedd, er mwyn gwella amrywiaeth y gynrychiolaeth ymhellach.
- Adnewyddu’r broses o ddiwygio etholiadol mewn awdurdodau lleol, gyda’r nod o fabwysiadu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
- Cryfhau addysg llythrennedd gwleidyddol a llythrennedd yn y cyfryngau mewn ysgolion i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn deall sut mae democratiaeth yng Nghymru yn gweithio, a bod ganddynt y sgiliau beirniadol i adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Byddwn yn cryfhau uniondeb mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus, ac yn sicrhau bod twyll bwriadol yn arwain at ganlyniadau – gan gynnwys deddfu i ymestyn egwyddorion Cyfraith Hillsborough a’r ddyletswydd gonestrwydd lle nad yw deddfwriaeth y DU yn ymdrin yn llawn â swyddogaethau datganoledig a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Byddwn yn amddiffyn datganoli ac yn gwrthsefyll ymdrechion i’w danseilio neu ei wanhau, gan sicrhau mwy o’r dulliau sydd eu hangen arnom i adeiladu Cymru fwy teg a ffyniannus.
Rydyn ni’n gwybod bod y DU yn cael ei strwythuro a’i llywodraethu mewn ffordd anghynaliadwy ar hyn o bryd. Mae newid yn angenrheidiol ac yn debygol, a rhaid i lywodraeth gyfrifol baratoi ar gyfer hynny. Mae ein cenedl ar daith at annibyniaeth a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â phobl Cymru i nodi’r camau posib nesaf ar y daith honno.
Byddwn yn sefydlu Comisiwn Cenedlaethol newydd i Gymru, a fydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cyflwyno a goruchwylio prosesau ar gyfer datganoli Ystad y Goron, gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith, a chyfiawnder a phlismona. Roedd y rhain i gyd yn argymhellion gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
- Cynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol barhaus am yr opsiynau ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru – gan adeiladu ar yr arferion gorau gafodd eu sefydlu gan y Comisiwn Cyfansoddiadol o ran cysylltu newid cyfansoddiadol â’r materion sy’n bwysig i bobl ac sy’n effeithio arnynt yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
- Ymchwilio i gwestiynau gwleidyddol ac economaidd allweddol sy’n berthnasol i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, er mwyn llywio trafodaethau a phenderfyniadau.
- Gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn yn y dyfodol ar annibyniaeth i Gymru – gan fynd i’r afael â’r heriau a nodi’r cyfleoedd a’r newidiadau cadarnhaol y byddai annibyniaeth yn eu cynnig i Gymru.
Rydyn ni’n credu yn y bôn mai pobl Cymru ddylai benderfynu ar ddyfodol gwleidyddol a chyfansoddiadol eu gwlad.
Byddwn felly’n gofyn yn ffurfiol am ddatganoli’r hawl i benderfynu ar yr amserlen, y cwestiwn a’r broses ar gyfer refferendwm annibyniaeth.