Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu perthynas newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Byddwn bob amser yn rhoi anghenion a buddiannau pobl Cymru yn gyntaf. Byddwn yn anelu at feithrin perthynas gydweithredol a chynhyrchiol â Llywodraeth y DU, gan barhau i fod yn gadarn ynghylch ein blaenoriaethau ar yr un pryd. Rhaid parchu datganoli a byddwn yn defnyddio ein mandad i gyflawni’r newid y mae pobl yng Nghymru angen ei weld, ac yn disgwyl ei weld.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i amddiffyn datganoli, ac ar feysydd eraill o ddiddordeb cyffredin fel cyllid tecach, polisïau economaidd ac ynni, a mynd i’r afael â thlodi plant.