Cefnogi busnesau Cymru a chreu ffyniant ym mhob rhan o Gymru

Mae arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn cytuno bod angen asiantaeth datblygu hyd braich newydd i hyrwyddo brand Cymru a helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a masnachu’n rhyngwladol, sicrhau mewnfuddsoddiad, a chynyddu nifer y swyddi cynaliadwy o ansawdd da sy’n talu’n dda.

Byddwn yn creu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, sy’n cael ei harwain gan fusnesau a’i rhedeg hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd yr Asiantaeth yn:

  • Darparu siop-un-stop ar gyfer cymorth i fusnesau – gan roi cyngor ac arweiniad arbenigol, bod yn brif ryngwyneb rhwng busnesau Cymru a marchnadoedd rhyngwladol, a chyfeirio busnesau at y cyllid sydd ei angen arnynt i dyfu a chynllunio ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys gan Fanc Datblygu Cymru.
  • Rhoi blaenoriaeth i gefnogi a thyfu busnesau bach a chanolig dan berchnogaeth Gymreig, sef asgwrn cefn ein heconomi, a chadw’r rhai sy’n llwyddo mewn dwylo Cymreig.
  • Cydlynu twf busnesau rhanbarthol – gan weithio i nodi ac adeiladu ar gryfderau ein gwahanol economïau rhanbarthol a hybu ffyniant ym mhob rhan o Gymru.
  • Datblygu a chynnal dealltwriaeth glir o anghenion economi Cymru fel y maen nhw’n newid, gan helpu busnesau Cymru i ymateb i heriau a chyfleoedd newydd – gan gynnwys mewn sectorau twf fel ynni adnewyddadwy a thechnoleg werdd, deallusrwydd artiffisial a digidol, technolegau meddygol, systemau bwyd a thechnoleg amaethyddol, a’r diwydiannau creadigol.
  • Sicrhau mewnfuddsoddiad sy’n datblygu cadwyni cyflenwi lleol, yn cynyddu cynhyrchiant ac yn cefnogi twf busnesau domestig.
  • Adeiladu ar waith Arfor o ran hybu twf busnes a datblygiad rhanbarthol sy’n sail i hyfywedd y Gymraeg mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn y Gogledd a’r Gorllewin.

Rydyn ni’n gwybod bod busnesau canolig (h.y. y rhai sy’n cyflogi rhwng 50 a 249 o bobl) yn tueddu i fod yn fwy cydnerth ac yn fwy tebygol o ailfuddsoddi yn eu cymunedau, o adeiladu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn, ac o gynnig swyddi gwell dros y tymor hirach – felly byddwn yn ceisio cynyddu nifer y busnesau hyn yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy.

Byddwn yn diwygio’r Banc Datblygu a’r cynnyrch ariannol y mae’n ei gynnig i sicrhau ei fod mewn sefyllfa well i gefnogi’r twf hwn. Byddwn yn sicrhau bod cyllid gan Fanc Datblygu Cymru yn hybu ac yn gwreiddio gwaith teg a Chyflog Byw Gwirioneddol.


Menter, Arloesedd a Chysylltedd: darllen mwy