Cadw mwy o wariant cyhoeddus yng Nghymru

Mae caffael blaengar – dyfarnu contractau cyhoeddus mewn ffordd sy’n targedu busnesau lleol yn fwriadol ac yn ailddosbarthu arian y cyhoedd drwyddynt, wedi’i dreialu’n llwyddiannus mewn lleoedd fel Preston yn Swydd Gaerhirfryn – yn gallu trawsnewid economïau rhanbarthol, gwneud busnesau bach a chanolig yn fwy cystadleuol a phroffidiol, a helpu i greu degau o filoedd o swyddi sy’n talu’n dda.

Mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario dros £8bn y flwyddyn yn caffael nwyddau a gwasanaethau – bron i draean o gyfanswm gwariant cyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd, mae tua 55% o hyn yn mynd i gyflenwyr yng Nghymru, o’i gymharu â’r 79% o gyfanswm y gwariant caffael gan sefydliadau angori allweddol yn Preston sydd wedi’i gadw’n lleol drwy Fodel Preston.

Drwy fabwysiadu agwedd newydd a phenderfynol at gaffael cyhoeddus blaengar, byddwn yn:

  • Ceisio cynyddu faint sy’n cael ei wario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr yng Nghymru o 55% ar hyn o bryd i o leiaf 70% o gyfanswm gwariant caffael cyhoeddus Cymru – gan greu dros 35,000 o swyddi.
  • Sicrhau bod cynigion contract yn cael eu sgorio’n effeithiol nid yn unig ar y llinell waelod, ond ar yr effaith ar y gymuned, ar werth cymdeithasol ac ar sut maen nhw’n meithrin gallu busnesau yng Nghymru ac yn datblygu cadwyni cyflenwi lleol.
  • Adolygu’r ffordd mae ‘lleol’ yn cael ei fesur mewn polisïau caffael cyhoeddus, a gwneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu’n fwy cywir pryd a ble mae arian cyhoeddus yn cael ei wario’n ystyrlon yng Nghymru.
  • Ei gwneud yn haws i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru gynnig am gontractau cyhoeddus, a gweithio gyda’i gilydd i gyflawni rhai mwy.
  • Gweithio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol i hyfforddi cenhedlaeth newydd o swyddogion caffael ar yr arferion gorau ym maes caffael arloesol.

Menter, Arloesedd a Chysylltedd: darllen mwy