Ffermio, bwyd a’r economi wledig

Rydyn ni’n cydnabod rôl hanfodol ffermio a’r sector bwyd a diod ehangach yn economi Cymru. Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon o ansawdd uchel, ac mae ein busnesau bwyd a diod yn troi’r cynnyrch o safon fyd-eang yn amrywiaeth helaeth o gynnyrch sy’n cael ei fwynhau ledled Cymru a’i allforio dramor, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth.

Er mwyn cefnogi ffermio, ein sector bwyd a diod, a’r economi wledig ehangach, byddwn yn:

  • Cefnogi’r sector amaethyddol mewn ffordd sy’n ategu cynaliadwyedd hirdymor busnesau ffermio.
  • Darparu cymorth busnes wedi’i deilwra ar gyfer amaethyddiaeth, bwyd a diod drwy’r Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, gan hybu arloesedd a thwf busnes yn y sector, a chefnogi prosesau olyniaeth sy’n sicrhau bod busnesau’n aros mewn dwylo Cymreig.
  • Datblygu Strategaeth Fwyd genedlaethol newydd i Gymru i gryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, gwella diogelwch bwyd, a defnyddio caffael cyhoeddus yn well i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru.
  • Gweithredu Strategaeth Datblygu Gwledig, gan gynnwys mesurau wedi’u targedu i fynd i’r afael â’r heriau penodol sy’n wynebu cefn gwlad Cymru a goresgyn y rhwystrau strwythurol i dwf yn yr economi wledig.

Menter, Arloesedd a Chysylltedd: darllen mwy