Ar hyd a lled Cymru – o Flaenau Gwent i Flaenau Ffestiniog – ceir enghreifftiau o gymunedau’n cymryd rheolaeth dros eu dyfodol economaidd eu hunain drwy sefydlu mentrau cymdeithasol, busnesau sy’n eiddo i’r gymuned, a mentrau cydweithredol.
Gan eu bod wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, mae’r busnesau hyn yn gallu bod yn fwy cynaliadwy ac maen nhw’n dueddol o allu gwrthsefyll ergydion economaidd yn well. Ydyn, maen nhw’n ceisio gwneud elw, ond mae cyfrifoldeb cymdeithasol a mynd i’r afael â phroblemau lleol yr un mor bwysig iddyn nhw, ac maen nhw’n ailgylchu cyfoeth yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd.
I wella’r cymorth i gymunedau er mwyn cymryd perchnogaeth dros eu heconomïau lleol, byddwn yn deddfu ar gyfer hawl y gymuned i brynu. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i'r gymuned gymryd perchnogaeth dros asedau lleol gwerthfawr pan fyddant ar werth, gan gynnwys busnesau fel tafarndai, siopau a chaffis, yn ogystal ag adeiladau a thir.
Byddwn yn darparu cymorth mwy arbenigol i greu, tyfu a chynnal busnesau cydweithredol newydd, busnesau cymdeithasol newydd a busnesau newydd sy’n eiddo i’r gweithwyr, ac yn ei gwneud yn haws iddynt gael cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru.