Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Gymru. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth o’r radd flaenaf, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod twristiaeth yn gweithio’n gynaliadwy i gymunedau Cymru. Byddwn yn adolygu rôl Croeso Cymru ac yn ystyried ai dyma’r model gorau i gefnogi twristiaeth a hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant.
Byddwn yn hybu twristiaeth sy’n darparu’r budd mwyaf posib i’n pobl, ein hamgylchedd, ein hiaith a’n diwylliant – gan adeiladu ar yr arferion gorau fel Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035, a gweithio i gynyddu perchnogaeth leol yn y sector.
Bydd trethi busnes is yn helpu busnesau hamdden a lletygarwch y stryd fawr, gan gynnwys tafarndai, bwytai a chaffis. Byddwn yn parhau i adolygu’r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau, ac yn creu eithriadau newydd clir a rhesymol lle na fyddai’r llety hwnnw’n gymwys i fod yn gartref preifat.
Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod unrhyw ardollau ymwelwyr yn cael eu defnyddio’n effeithiol i wella gwasanaethau cyhoeddus er budd cymunedau lleol, ac i wella’r cynnig i dwristiaid.