Mae busnesau manwerthu a lletygarwch llwyddiannus yn rhan annatod o ganol ein trefi – y siopau, y bariau, y bwytai a’r caffis sydd, hyd yn oed mewn oes o siopa ar-lein, yn gwneud ein strydoedd mawr yn lleoedd bywiog ar gyfer gweithio a chymdeithasu.
Ond o ganlyniad i ardrethi busnes uchel, mae llawer o fusnesau’r stryd fawr yn ei chael yn anodd cadw eu drysau ar agor.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn lleihau trethi busnes i fusnesau yng nghanol ein trefi – gan leihau ardrethi’r stryd fawr yn ogystal â sicrhau bod siopau y tu allan i drefi yn talu eu cyfran deg.
Byddwn yn gweithio i ddiogelu ac adfer gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb ar ein strydoedd mawr, gan gynnwys drwy archwilio opsiynau i ddarparu banc cymunedol newydd.
A byddwn yn ei gwneud yn haws troi adeiladau gwag ar y stryd fawr a mannau uwchben siopau yn breswylfeydd.