Y rheilffyrdd

Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli, ac er bod Cymru’n cynrychioli tua 5% o gyfanswm poblogaeth y DU, mae wedi cael llai na 2% o gyllid gwella rheilffyrdd y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae prosiectau rheilffyrdd mawr fel HS2, Pwerdy Gogledd Lloegr ac East-West Rail i gyd wedi cael eu dynodi fel prosiectau ‘Cymru a Lloegr’, er nad oes un centimetr o gledrau’n cael ei osod yng Nghymru. Dydyn ni ddim yn cael unrhyw gyllid canlyniadol yn sgil y prosiectau hyn, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Dyma Ladrad Mawr y Trên yng Nghymru, ac mae’n golygu ei bod yn heriol iawn buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru a’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach.

Byddwn yn brwydro dros y cyllid rheilffyrdd sy’n ddyledus i ni ac sydd ei angen arnom ni i fuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru – gan gynnwys £4bn mewn cyllid canlyniadol yn sgil HS2 – a dros ddatganoli’r rheilffyrdd.

Ar yr un pryd, byddwn yn cyflwyno piblinell newydd o brosiectau rheilffyrdd tymor byr, tymor canolig a thymor hir yng Nghymru. Byddwn yn sicrhau bod seilwaith rheilffyrdd newydd yn cael ei ddylunio a’i ddarparu yn y ffordd fwyaf hygyrch bosib, a’i fod yn integreiddio’n llawn â gwasanaethau bysiau a dewisiadau teithio llesol.

Er ein bod yn gwybod na welwn ni’r math o drawsnewid sydd wir ei angen ar y rheilffyrdd yng Nghymru heb i ni gael ein cyfran deg o’r cyllid, mae ein blaenoriaethau mwyaf uniongyrchol ar gyfer y rheilffyrdd yn glir.

Mae’r gwaith ar gyflawni’r blaenoriaethau hyn yn gallu dechrau nawr, a bydd yn dechrau nawr, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod popeth yn ei le i’w gyflymu ar ôl i ni sicrhau’r fargen well a thecach ar seilwaith rheilffyrdd y mae Cymru’n ei haeddu.

Dros dymor nesaf y Senedd, bydd y biblinell hon o brosiectau rheilffyrdd yn cynnwys:

  • Gwasanaethau bob dydd gwell ac amlach yn y De-ddwyrain, gan gynnwys cynyddu pa mor aml mae gwasanaethau’n rhedeg i 4 trên yr awr rhwng Caerdydd a Blaenau’r Cymoedd drwy Bontypridd a Chaerffili, a 2 drên yr awr ar gangen Maesteg a Llinell Bro Morgannwg y tu hwnt i’r Barri.
  • Cam 2 Cledrau Croesi Caerdydd – gan gynnwys galluogi 4 trên yr awr ar Linellau Dinas Caerdydd a Choryton, gwaith trydaneiddio a threnau tram ar gyfer Penarth, cyswllt gorsafoedd a gorsafoedd ychwanegol.
  • Datblygu parhaus ar Brif Linell De Cymru, gan gynnwys trydaneiddio’n raddol a gwasanaethau newydd, gan leihau’r amser teithio rhwng Caerfyrddin a Llundain.
  • Cynyddu’r capasiti yn y Gogledd – gan adeiladu ar wasanaethau uniongyrchol newydd rhwng Llandudno a Lerpwl gyda gwelliannau i Brif Linell Gogledd Cymru o Gaer i Gaergybi, a chynyddu pa mor aml mae gwasanaethau’n rhedeg rhwng Wrecsam a Chaer.
  • Uwchraddio signalau a dolenni pasio newydd i gynyddu capasiti ar Linell y Gororau.

I sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael ei thrin yn deg, ac i gryfhau cysylltedd yng Nghymru yn ogystal â chysylltiadau trawsffiniol, byddwn hefyd yn:

  • Datblygu cynlluniau i gwblhau Cledrau Croesi Caerdydd ac i ehangu’r Metro ymhellach yn y De-ddwyrain.
  • Cyflwyno cynlluniau ar gyfer Cam 1 Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru – gan ddod â’r Metro’n fyw gydag ymyriadau rheilffyrdd penodol (ar amlder gwasanaethau, cyflymder rheilffyrdd a gorsafoedd) a fydd yn gwella cymudo o ddydd i ddydd a mynediad at wasanaethau yn y De-orllewin.
  • Datblygu opsiynau ar gyfer coridor rheilffordd newydd yn y Gogledd-orllewin, ac ar gyfer cysylltedd rheilffordd rhwng y Gogledd a’r De.
  • Archwilio dichonoldeb cysylltiadau rheilffyrdd newydd yn y Gorllewin, gan gynnwys ailagor Llinell Dyffryn Aman.

Byddwn yn gweithio gyda TrC i ddatblygu strwythur prisiau newydd, symlach a thecach, a chynllun capio prisiau ar gyfer teithiau trên yng Nghymru.


Cysylltu Cymru: darllen mwy