Porthladdoedd a theithiau awyr

Mae ein porthladdoedd yn chwarae rhan allweddol mewn masnach, teithio a thwf economaidd. Gan bwyso am ddatganoli’r gwaith o reoleiddio porthladdoedd yn llawn i Lywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau porthladdoedd, gweithredwyr llongau fferi, cludwyr a rhanddeiliaid eraill i gryfhau cadernid porthladdoedd Cymru a chynyddu eu rôl yng nghadwyni cyflenwi Ewrop.

Byddwn yn sicrhau bod porthladdoedd Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar ddiwydiannau newydd, gan gynnwys gwynt arnofiol ar y môr a’r farchnad mordeithiau, sy’n tyfu.

Byddwn yn gweithio i sicrhau’r manteision gorau posib i Borthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd, gan ddiogelu swyddi o ansawdd uchel a safonau gwaith teilwng ar yr un pryd.

Mae maes awyr rhyngwladol hyfyw yn hanfodol ar gyfer cysylltedd byd-eang Cymru. Byddwn yn mabwysiadu dull strategol o sicrhau cynaliadwyedd hirdymor Maes Awyr Caerdydd ac yn ceisio datganoli’r Doll Teithwyr Awyr.


Cysylltu Cymru: darllen mwy