Teithio llesol

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod teithio llesol wrth galon system drafnidiaeth Cymru, gan hybu iechyd da a sicrhau llwybrau diogel a hygyrch i bobl gerdded, beicio ac olwyno.

Byddwn yn:

  • Sicrhau buddsoddiad cyhoeddus strategol ac effeithiol mewn teithio llesol, gan fesur llwyddiant ar sail newid ymddygiad ac ansawdd rhwydweithiau, nid ar sail lefelau gwariant yn unig.
  • Rhoi canllawiau statudol clir i awdurdodau lleol, gan nodi blaenoriaethau, disgwyliadau a chanlyniadau ar gyfer teithio llesol.
  • Gwreiddio teithio llesol ar draws y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, ffyrdd a rheilffyrdd.
  • Cefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cynlluniau llogi beiciau mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.

Cysylltu Cymru: darllen mwy