Bysiau

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed. Byddwn hefyd yn cadw tocynnau bws am ddim i bobl dros 60 oed a phobl anabl.

Fel rhan o ddarparu system drafnidiaeth gwbl integredig, byddwn yn ehangu tocynnau tap ymlaen, tap ymadael, talu wrth fynd gyda chapiau prisiau dyddiol ar draws bysiau a threnau, gan wneud teithio’n symlach ac yn fwy fforddiadwy.

Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr i fanteisio i’r eithaf ar ddiwygio gwasanaethau bysiau – i sicrhau bod masnachfreinio wir yn darparu gwasanaethau gwell, mwy hygyrch a fforddiadwy.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod amserlenni bysiau yn cyd-fynd â’i gilydd ac â gwasanaethau rheilffyrdd ar draws y rhwydwaith, fel rhan o’r gwaith o adeiladu system drafnidiaeth gwbl integredig i Gymru.
  • Bod cwmnïau bach a chanolig mewn sefyllfa dda i gynnig am gontractau bysiau newydd.
  • Bod llwybrau bysiau newydd yn cael eu dylunio mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r angen i ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i ysgolion, colegau, gweithleoedd a gwasanaethau iechyd a gofal.
  • Bod llais ein pobl a’n cymunedau yn cael ei adlewyrchu go iawn yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau bysiau.
  • Bod y flaenoriaeth i fysiau’n cael ei hymestyn a thagfeydd yn cael eu lleihau ar ffyrdd presennol, a bod tai a gweithleoedd newydd yn cael eu cynllunio’n well ar sail mynediad at fysiau, a llwybrau cerdded a beicio.

Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i wella hygyrchedd a diogelwch safleoedd bysiau. Mae hyn yn cynnwys goleuadau gwell, croesfannau sebra mewn lleoliadau da, ac uwchraddio seilwaith. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithiol.

Byddwn yn darparu gwasanaeth bws Gogledd i’r De cyflym rhwng Bangor a Chaerfyrddin – gan dorri 90 munud oddi ar amseroedd teithio a chysylltu â gwasanaethau trên presennol i barhau â’r daith.


Cysylltu Cymru: darllen mwy