Ceir a cherbydau trydan

Gan gydnabod y bydd llawer o bobl mewn rhannau o gefn gwlad Cymru yn enwedig yn parhau i ddibynnu ar geir, a bod costau tanwydd yn yr ardaloedd hyn yn anghymesur o uchel yn aml, byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ymestyn ei Chynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Gymru.

Mae prisiau is ar gyfer cerbydau trydan newydd ac ail-law yn golygu bod cyfle i gynyddu’r nifer sy’n eu defnyddio, os yw’r seilwaith cywir yn ei le.

Byddwn yn cyflwyno strategaeth gwefru cerbydau trydan newydd i Gymru a chynllun seilwaith wedi’i ddiweddaru ar gyfer trydaneiddio cerbydau. Byddwn yn ei gwneud yn haws targedu buddsoddiad i ehangu’r seilwaith gwefru mewn cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu’n wael gan gynlluniau presennol ar gyfer y rhwydwaith gwefru, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.


Cysylltu Cymru: darllen mwy