Cwblhau’r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn

Mae hyd at 30,000 o adeiladau yng Nghymru nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cael mynediad at gyflymderau rhyngrwyd dros 30 Mbps, ond sydd y tu hwnt i gyrhaeddiad buddsoddiad gan naill ai’r sector preifat neu Lywodraeth y DU.

Byddwn yn buddsoddi lle mae bylchau mewn cynlluniau ar lefel fasnachol a chynlluniau’r sector cyhoeddus ar lefel y DU – gan gynnwys y Prosiect Gigabit – i sicrhau bod gan bob cartref a busnes yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn o leiaf (cyflymderau rhwng 30 a 100 Mbps).

Byddwn hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol ar gyfer y rhai sy’n cael budd-daliadau penodol, ac yn galw am gofrestru’r rhai sy’n gymwys ar eu cyfer yn awtomatig fel ffordd o fynd i’r afael â thlodi digidol.