Mae diwylliant yn sbardun allweddol ar gyfer tyfu, arloesi a bod yn ddeinamig yn economi Cymru. Fel rhan o’n cynlluniau ehangach i drawsnewid cymorth i fusnesau, bydd y diwydiannau creadigol yn cael cefnogaeth lawn gan lywodraeth Plaid Cymru.
Byddwn yn:
- Sicrhau bod gan ein Hasiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd yr arbenigedd sydd ei angen i ddarparu cymorth pwrpasol i fusnesau ar draws y cyfryngau, y maes digidol, diwylliant a’r celfyddydau.
- Cefnogi datblygiad y gweithlu yn y diwydiannau creadigol fel rhan o strategaeth sgiliau genedlaethol ehangach – drwy hyrwyddo llwybrau gyrfa gynnar, prentisiaethau, a chysylltiadau cryfach rhwng addysg a diwydiant, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant ac amrywiaeth.
- Hyrwyddo hybiau adnoddau a rennir ac atebion cydweithredol ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd, gan ddarparu mwy o sefydlogrwydd, cydweithio, a chyd-gefnogaeth i weithlu creadigol Cymru.
- Sefydlu Fforwm Creadigol a Diwylliant traws-sector, gan ddod ag undebau, sefydliadau diwylliannol a chyrff cyhoeddus at ei gilydd i ddatblygu blaenoriaethau cyffredin a gwthio am gyflog teg ac amodau gwaith gwell yn y sector.
- Sicrhau bod mwy o wariant cyhoeddus ar wasanaethau digidol, creadigol a chyhoeddi yn mynd i gwmnïau yng Nghymru, yn cefnogi swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’r cyflog byw, ac yn gwarantu bod anfonebau’n cael eu talu’n brydlon.
- Cynnwys lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad mewn cynlluniau i ddiwygio ardrethi busnes er mwyn cefnogi busnesau bach yn well ym meysydd manwerthu, hamdden a lletygarwch.
- Cryfhau cysylltedd digidol ym mhob rhan o Gymru – gan wella’r seilwaith sydd ei angen ar fusnesau creadigol a chyfryngau, ac ehangu mynediad at dreftadaeth a diwylliant ar-lein.