Bydd gwella cyfranogiad, mwynhad, a mynediad pobl at chwaraeon ar bob lefel mewn cymunedau ledled Cymru yn rhan annatod o’n dull o gadw pobl yn iach. Mae hyn yn cyd-fynd â’n cred bod yn rhaid i ni fuddsoddi’n raddol mewn iechyd cyhoeddus ac ataliol, gyda chwaraeon ac ymarfer corff yn ffactorau allweddol yn hyn o beth.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn:
- Cynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon o un flwyddyn i’r llall drwy gydol tymor nesaf y Senedd.
- Hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol ar draws holl weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac fel maes gwaith allweddol i Weinidog Plaid Cymru dros Iechyd y Cyhoedd.
- Buddsoddi mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel rhan o’r agenda iechyd ataliol, a hyrwyddo gwaith partneriaeth newydd rhwng byrddau iechyd, gwasanaethau gofal sylfaenol a sefydliadau chwaraeon, gan gynnwys cyrff llywodraethu cenedlaethol.
- Cynnal archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol er mwyn deall yn well sut mae targedu buddsoddiad cyfalaf dros dymor y llywodraeth, er mwyn rhoi’r cymorth gorau posib i chwaraeon cymunedol ac ar lawr gwlad.