“Yr achos dros annibyniaeth i Gymru yn y brif ffrwd” - Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS
Mae’r achos dros annibyniaeth i Gymru bellach “yn y brif ffrwd” meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ôl i arolwg barn newydd ddarganfod bod cefnogaeth i Gymru annibynnol ar 32%.
Cynlluniau i agor amgueddfa filwrol yn “sarhad” i’r gymuned leol meddai Plaid Cymru
Mae cynlluniau i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd wedi cael eu beirniadu, gyda Phlaid Cymru yn galw’r penderfyniad yn “sarhad” i’r hanes cyfoethog lleol, ac yn lle hynny, yn galw am amgueddfa sydd yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yno.
Gallai’r bil cwricwlwm newydd “danseilio” darpariaeth o’r Gymraeg
Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS wedi annog Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi ei Bil Cwricwlwm drafft newydd yng nghanol pryderon y gallai danseilio cynlluniau trochi iaith Gymraeg awdurdodau lleol, a chael goblygiadau dinistriol ar y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion.
Gwasanaeth cludo bwyd yn rhoi hwb i’r economi leol yn ystod argyfwng Covid-19
Mae busnesau ac entrepreneuriaid lleol wedi bod yn addasu ac yn arloesi er mwyn ymateb i’r argyfwng presennol, ac mae nifer o fentrau yn y diwydiant bwyd a diod, fel y gwasanaeth “Ymaichi” sydd wedi’i sefydlu yn Aberystwyth, wedi cael eu croesawu gan Blaid Cymru.
Y rhai nad ydynt yn gymwys am y Cynllun Cadw Swyddi yn gorfod “byw oddi ar gardiau credyd"
Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Helen Mary Jones AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn i helpu’r sawl nad ydynt yn gymwys am gynllun cadw swyddi Llywodraeth San Steffan.