Addewid allweddol Plaid Cymru yn etholiadau'r Senedd yn 2021 yn dechrau ei gweithredu o fis Medi eleni

Bydd prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn cael eu cyflwyno mis Medi - gan ddechrau gyda dosbarthiadau derbyn, yn sgil yr ymrwymiad allweddol yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Drwy'r Cytundeb Cydweithio, mae Plaid Cymru wedi sicrhau y bydd y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru yn dechrau gweithredu'r polisi ym mis Medi.  Mae sicrhau bod y ddarpariaeth o ansawdd uchel a defnyddio cynnyrch lleol lle y bo'n bosibl hefyd yn flaenoriaeth.

Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod hwn yn gam sylweddol ymlaen tuag at fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.

“Mae hwn yn gam enfawr ymlaen yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru, un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o blant” meddai Sioned Williams.

“Roedd Prydau Ysgol am Ddim i Bawb ar gyfer plant ysgolion cynradd yn un o addewidion etholiadol allweddol Plaid Cymru yn etholiadau'r Senedd yn 2021 ac yn un oedd yn flaenoriaeth wrth helpu i ddatblygu'r Cytundeb Cydweithio.”

Ychwanegodd: “Er fy mod yn deall y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru yn dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim ym mis Medi, o ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i ddyblu eu hymdrechion rhwng nawr a dechrau'r ysgol ym mis Medi, ac yn y misoedd sy'n dilyn wrth i'r polisi gael ei gyflwyno ar gyfer plant hŷn,  fel y darperir prydau am ddim cyn gynted â phosibl i gynifer o'n plant â phosibl.       

“Gallai'r polisi hwn wneud gwahaniaeth sylweddol a sicrhau nad yw plentyn yn mynd heb fwyd - dyna pa mor bwysig yw’r cyhoeddiad heddiw. Rydym yn diolch o galon i'r rhai sy'n gweithio o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru - o staff arlwyo i’r rhai sy'n dosbarthu ac yn cydlynu'r broses o'u cyflwyno - wrth gydnabod pa mor bwysig yw hi ein bod yn cael hyn yn iawn i'n plant.”