Datgloi potensial economi Cymru, a chreu swyddi da sy’n talu’n dda

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru eisoes yn cystadlu â’r goreuon yn y byd. Ond mae gan economi Cymru botensial heb ei gyffwrdd hefyd.

Bydd ein cynllun economaidd yn datgloi’r potensial hwnnw drwy dyfu a chynnal busnesau sydd mewn dwylo Cymreig, darparu swyddi da, adfywio canol ein trefi, a hybu safonau byw.

Drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd wedi'i harwain gan fusnes, byddwn yn helpu busnesau Cymru i sicrhau buddsoddiad, i fasnachu ac i arloesi. Byddwn yn sicrhau bod rhagor o’n busnesau llwyddiannus yn parhau i fod dan berchnogaeth Gymreig – gan ddarparu swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda yn ein cymunedau, ac ailfuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol yn y tymor hirach.

Byddwn yn defnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau yng Nghymru yn well, gyda’r nod o gynyddu lefel y gwariant ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr yng Nghymru – o 55% (y lefel ar hyn o bryd) i o leiaf 70% o holl wariant caffael cyhoeddus Cymru.

Byddwn yn diwygio ardrethi busnes i sicrhau tegwch i fusnesau ar y stryd fawr, ac yn unioni’r anghydbwysedd sydd ar hyn o bryd yn ffafrio siopa y tu allan i drefi dros ddarpariaeth lletygarwch, hamdden a manwerthu yng nghanol ein trefi.

A drwy ddatblygu system sgiliau sy’n barod at y dyfodol yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod gan bawb y sgiliau i lwyddo. Byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi ac addysg yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr a diwydiannau ar lawr gwlad yng Nghymru, ac yn adlewyrchu cyfleoedd y dyfodol yn economi Cymru.


Ein Blaenoriaethau: darllen mwy