Mae sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddysgu ac i adael yr ysgol gyda’r lefelau uchaf posib o lythrennedd a rhifedd yn hanfodol er mwyn rhoi’r sylfaen orau iddynt ar gyfer eu dyfodol.
Ond ar hyn o bryd, mae ein system addysg yn methu gormod o’n disgyblion o ran cefnogi eu dysgu, hybu eu llesiant, a datblygu eu sgiliau beirniadol a’u gwybodaeth ym meysydd darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Yn 2022, cafodd Cymru ei sgoriau isaf erioed yn asesiadau rhyngwladol PISA.
Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno strategaeth feiddgar, ymarferol a chynhwysol i godi’r safonau addysgol craidd yn ein hysgolion.
Byddwn yn rhoi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd ar waith i sefydlu meincnodau cenedlaethol, darparu cymorth wedi’i dargedu, sicrhau addysgu o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda phroses olrhain cynnydd dryloyw ar gyfer pob myfyriwr. A byddwn yn sicrhau bod y Cwricwlwm i Gymru yn llwyddo i ddarparu gwybodaeth ddofn sy’n benodol-i-bwnc.
Erbyn 2030, bydd gan bob ysgol gynradd yng Nghymru lyfrgell bwrpasol, a bydd darllen yn cael ei wreiddio ar draws pob pwnc – nid dim ond Cymraeg a Saesneg.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn buddsoddi yn nyfodol addysg yng Nghymru drwy gefnogi’r gwaith o recriwtio a chadw’r athrawon gorau – gan ddarparu gwell cymhellion i athrawon dan hyfforddiant, gwella amodau gwaith yn ein hysgolion, a sicrhau gwell cyfleoedd datblygu gyrfa i’n gweithlu addysg.