Helpu teuluoedd gyda chostau byw drwy ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon

Mae mynediad at ofal plant fforddiadwy ac o ansawdd uchel yn datgloi cyfleoedd. Mae’n rhoi rhyddid i rieni – yn enwedig mamau – ddychwelyd i waith neu i hyfforddiant, neu i weithio mwy o oriau. Ac mae’n gallu arwain at fanteision sylweddol i bob plentyn – cyfle i gymdeithasu a chael dechrau da er mwyn ffynnu mewn addysg gynradd.

Ond mae costau gofal plant yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn y DU ar hyn o bryd. Mae teuluoedd sydd â phlant ifanc yn gwario mwy ar ofal plant nag ar dai, a dydy llawer ohonynt ddim yn gallu fforddio gofal plant o gwbl.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn darparu cynnig gofal plant trawsnewidiol newydd i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 blwydd oed, gan roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd, cefnogi rhieni i fynd yn ôl i weithio, a rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn, beth bynnag fo’i gefndir.

Erbyn i’n cynnig newydd gael ei gyflwyno’n llawn, bydd gan bob plentyn rhwng 9 mis a 4 blwydd oed hawl i 20 awr o ofal plant am ddim bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn. Ac i blant rhwng 3 a 4 oed y mae eu rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant, byddwn yn anrhydeddu’r cynnig presennol – sef 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi'i ariannu.

Pan fydd y cynnig cyffredinol hwn yn cael ei gyflwyno’n llawn, bydd werth mwy na £30,000 mewn costau gofal plant ym mhedair blynedd gyntaf bywyd plentyn, sy’n golygu mai dyma’r rhaglen gofal plant fwyaf hael a ariennir gan y llywodraeth yn unrhyw le yn y DU.


Ein Blaenoriaethau: darllen mwy