Mae tua 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar hyn o bryd, gyda mwy na 5,000 o bobl yn aros dros 2 flynedd am driniaeth.
Mae yna bobl go iawn y tu ôl i’r ffigurau hyn – pobl sy’n byw mewn poen, anghysur a phryder. Mae pawb yng Nghymru yn adnabod rhywun sy’n aros am driniaeth.
Mae gan Blaid Cymru gynllun pwrpasol wedi’i gostio i dorri rhestrau aros, fel cam cyntaf ac angenrheidiol i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal.
Er mwyn i fwy o bobl allu gweld meddyg teulu pan fo angen, ac er mwyn helpu i leihau’r baich ar wasanaethau iechyd rheng flaen, byddwn yn cyflogi hyd at 100 o feddygon teulu newydd i ddarparu mwy o ofal y tu allan i oriau, ac yn buddsoddi mwy mewn digideiddio a thelefeddygaeth.
Drwy neilltuo amser ac adnoddau ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, byddwn yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu trin, a hynny’n gyflymach.
Gan ddilyn argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, byddwn yn creu 10 hwb llawfeddygol newydd i gynnig triniaethau yn gynt, triniaethau fel gosod clun a phen-glin newydd, llawdriniaethau hernia a thynnu cataractau – gan ddatblygu’r rhain i fod yn ganolfannau rhagoriaeth newydd ar gyfer meysydd arbenigol fel orthopedeg ac offthalmoleg.
Drwy dorri rhestrau aros, byddwn yn tynnu’r pwysau mwyaf uniongyrchol oddi ar y GIG – gan greu lle i fuddsoddi mewn gwasanaeth iechyd a gofal integredig sy’n sicrhau gwell mynediad at eich deintydd neu feddyg teulu, sy’n darparu gofal cymdeithasol mwy cynaliadwy, ac sy’n cadw pobl yn iachach yn hirach.
Drwy greu swydd newydd Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd, byddwn yn sicrhau bod mwy o bwyslais ar hybu llesiant corfforol a meddyliol pobl ym mhopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
Dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, bydd ein GIG bob amser ar gael am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.