Mynd i'r afael â thlodi plant

Mae Plaid Cymru eisiau rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, ac rydyn ni’n gwrthod derbyn nad oes gan 1 plentyn o bob 3 ddim dewis ond byw mewn tlodi.

Mae magu plant mewn tlodi yn effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau – o’u hiechyd i’w cyrhaeddiad addysgol, a’u rhagolygon gwaith yn y dyfodol. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar bawb oherwydd ei fod yn rhoi mwy o bwysau ar ein GIG a gofyn mwy gan y wladwriaeth les.

Felly, torri’r cylch tlodi yw’r peth iawn i’w wneud, a’r peth doeth i’w wneud.

Dyna pam y byddwn yn cyflwyno cynllun radical newydd wedi’i dargedu i fynd i’r afael â thlodi plant.

Bydd ein cynnig gofal plant newydd yn rhoi hwb i incwm aelwydydd ac yn helpu i godi teuluoedd allan o dlodi. Byddwn hefyd yn adeiladu ar y gwaith a wnaethom i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, drwy ehangu’r cynllun i ysgolion uwchradd.

Gan ddysgu o’r dystiolaeth am yr hyn sydd wir yn gweithio i fynd i’r afael â thlodi plant, byddwn yn cyflwyno Cynnal – Taliad Plant Cymru. Byddwn yn treialu taliad wythnosol o £10 ar gyfer hyd at 15,000 o blant 0-6 oed mewn aelwydydd incwm isel, ac yn llunio’r achos dros ddatganoli’r pwerau sydd eu hangen arnom i gyflwyno’r taliad yn llawn ledled Cymru.


Ein Blaenoriaethau: darllen mwy