Cyhuddo Mark Drakeford o ‘falu awyr’ dros Brexit
Mae Plaid Cymru wedi barnu neges fideo a bostiwyd i gyfrif swyddogol Prif Weinidog Cymru, @fmwales, ddydd Mawrth, pan i Mark Drakeford alw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i “ganolbwyntio ar fargen gyda’r Undeb Ewropeaidd.”
Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant
Mae canlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl yn aneglur er fod 11% o holl gyllideb GIG Cymru yn cael ei gwario ar y gwasanaethau hynny, yn ôl adroddiad newydd gan Blaid Cymru.
Galw y Cynulliad Ceneldaethol a Senedd San Steffan yn ôl ar frys i drafod ‘Brexit heb gytundeb’
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AC, ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, heddiw wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Mark Drakeford a Phrif Weinidog San Steffan Boris Johnson i ofyn am alw’r Senedd a senedd San Steffan yn ôl rhag blaen.
Cryfhau addysg Gymraeg yn 'flaenoriaeth ddeddfwriaethol' i lywodraeth Plaid Cymru
Mae’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Gymraeg, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd i gryfhau’r gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg.
Pryder fod Gweinidog y Gymraeg yn pwyso ar Gomisiynydd y Gymraeg i beidio ymchwilio i gwynion
Mae Gweinidog Cysgodol y Gymraeg Plaid Cymru, Siân Gwenllian AC, wedi mynegi pryder fod Llywodraeth Cymru yn ceisio ymyrryd yn annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg a gwanhau’r gyfundrefn safonau.
Plaid Cymru ar frig pôl Cynulliad am y tro cyntaf yn hanes y blaid
Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae Plaid Cymru ar frig pôl piniwn newydd o fwriadau pleidleisio’r Cynulliad, a ryddhawyd heddiw.
Brexit eisoes yn gwneud gwyliau haf pobl yn fwy anodd
Cwymp y bunt ac ansicrwydd yn broblem ‘wirioneddol y funud hon’ i bobl sy’n mynd ar eu gwyliau.
Newyddiadurwr y BBC Aled ap Dafydd i ymuno â thîm Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi apwyntio Prif Ohebydd Newyddion 9 Aled ap Dafydd fel ei Chyfarwyddwr Strategaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Allanol newydd.
HS2: Colledion Cymru wedi eu cloi i mewn gyda chostau yn codi i’r entrychion
Mae llefarydd Plaid Cymru ar Drafnidiaeth, Jonathan Edwards AS, wedi dweud bod yn rhaid dileu HS2, yn dilyn tystiolaeth bellach o gostau cynyddol a’i effeithiau ‘hynod niweidiol’ uniongyrchol ac anuniongyrchol ar Gymru.
'Angen mwy na chodiad cyflog i helpu ein athrawon'
AC Plaid Sian Gwenllian yn galw am ‘gynllunio bwriadur, hir dymor’ i recriwtio a chadw athrawon