Aaron Wynne

Ymgeisydd Aberconwy

Aaron Wynne - Aberconwy

Gwefan Facebook Twitter Instagram

Soniwch amdanoch eich hun

Aaron Wynne ydw i, rwy’n 24 oed ac yn Gynghorydd lleol dros Lanrwst. Cefais fy ethol i Gyngor Sir Conwy yn 2017 pan oeddwn yn 20 oed. Cefais fy ngeni a’m magu yn Llanrwst, ac yno rydw i’n byw heddiw. Wedi gadael y chweched dosbarth, mi weithiais fel dyluniwr gwe yng Nghonwy gan arbenigo mewn dylunio gwefannau dwyieithog, cyn symud i wleidyddiaeth leol.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r argyfwng tai Mae dros 1000 o deuluoedd ar y rhestr aros am gartref yn sir Conwy yn unig, a llawer iawn mwy o bobl ifanc mewn gwir angen am dŷ. Mae’n rhaid i ni adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy fel y gall pobl ifanc barhau i fyw a gweithio’n lleol. Fel person ifanc, mi wn pa mor anodd yw hyn - mae’r rhan fwyaf o fy ffrindiau eisoes wedi symud i ffwrdd i chwilio am waith a rhywle i fyw.

Beth wnewch chi dros Aberconwy petaech yn cael eich ethol?

Os caf f’ethol i’r Senedd buaswn yn gweithio i liniaru’r argyfwng ail gartrefi, sydd yn gwthio prisiau tai i fyny i bobl leol. Buaswn yn pwyso am newid yn y deddfau cynllunio i roi pwerau i Gynghorau osod cap ar nifer yr ail gartrefi. Rwyf hefyd eisiau cau’r dull dianc rhag treth sydd yn caniatáu i berchenogion ail gartrefi i gofrestru eu heiddo fel “busnes” er mwyn osgoi talu Treth Cyngor. Mae ar bawb angen cartref i fyw ynddo. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru.