Cris Tomos

Ymgeisydd etholaeth Preseli Penfro a rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhif 4)

Cris Tomos - Preseli PenfroCris Tomos - Canolbarth a Gorllewin Cymru (4)

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n briod gyda dau o blant, wedi byw yng ngogledd Sir Benfro trwy f’oes, ac yn falch o fod wedi chwarae fy rhan mewn datblygu cymunedol ac economaidd yng ngorllewin Cymru dros y 30 mlynedd a aeth heibio.

Cefais fy magu ar fferm laeth y teulu yn Llwyndrain, Gogledd Penfro ac yr wyf yn sylweddoli’r newidiadau sy’n dal i wynebu amaeth a’r economi wledig. Rwyf yn awr yn byw yn Hermon yng Ngogledd Penfro. Helpais i sefydlu menter gymdeithasol yn y pentref, arwain datblygu Menter Gydweithredol Canolfan Hermon, canolfan adnoddau gwledig sydd â 150 o gyfranddalwyr lleol ar safle sy’n cynnig cyfleoedd i gynnal cyfarfodydd a gwaith i grwpiau cymunedol a busnesau bach.

Ym mis Mai 2017 cefais fy ethol yn gynghorydd sir ward Crymych a dod yn aelod cabinet yng Nghyngor Sir Penfro gyda chyfrifoldeb dros bortffolio Amgylchedd, Gwarchod y Cyhoedd a’r Iaith Gymraeg. Rwyf hefyd yn gadeirydd cyngor cymuned Crymych ac yn llawn sylweddoli’r heriau mae ein cymunedau lleol yn wynebu.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Dros y pum mlynedd nesaf, dylai’r Senedd ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â lleihau tlodi a chynnig cyfle i bobl ddatblygu sgiliau i gyrraedd eu llawn botensial. Byddai modd cefnogi pobl i sefydlu eu busnesau eu hunain a chreu mentrau cymdeithasol newydd i lenwi’r bylchau mewn gwasanaethau lleol.

Beth wnewch chi dros Preseli Penfro / Canolbarth a Gorllewin Cymru petaech yn cael eich ethol?

Fe wnaf yn siŵr y gall pobl Preseli Penfro adeiladu ar y cynlluniau cymunedol a chymdogaeth gwych a ddaeth i’r golwg yn ystod pandemig Covid19 fel bod gwasanaethau yn cael eu rheoli a’u blaenoriaethu gan bobl leol. Bydd hyn yn amrywio o wasanaethau iechyd a lles i fentrau economaidd a lleihau carbon. Bydd cymunedau yn chwarae rhan fawr mewn datblygiadau cymdeithasol ac economaidd.