Dafydd Llywelyn

Ymgeisydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys

Mae Dafydd Llywelyn wedi bod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ar Heddlu Dyfed-Powys ers 2016, ac fe’i hail-etholwyd yn 2021.

Bu Dafydd yn gweithio ym maes Cudd-wybodaeth yr Heddlu am nifer o flynyddoedd cyn dod yn ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo bron i chwarter canrif o brofiad yn yr Heddlu, ac mae ei yrfa wedi rhoi mewnwelediad a dealltwriaeth drylwyr iddo i faterion plismona.

Yn ogystal â’i rôl fel Comisiynydd, mae hefyd yn Gadeirydd Plismona yng Nghymru, ac mae’n ymwneud â Gwasanaethau Digidol yr Heddlu, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, Bwrdd Plismona Cymru a’r Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol.

Yn ystod ei gyfnod fel CHTh, mae Dafydd Llywelyn wedi cynyddu nifer y Swyddogion Heddlu o 200 yn fwy o swyddogion, wedi buddsoddi mewn CCTV modern, Hwb Plismona cynaliadwy a Dalfa newydd a rôl Cwnstabl Heddlu Canol Tref. Nod y mesurau hyn yw gwneud i'r cyhoedd deimlo'n ddiogel, cynyddu cyfleoedd i ymgysylltu â'r heddlu yn yr ardal, a moderneiddio'r heddlu.

O dan ei arweiniad fel CHTh, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sefydlu Goleudy, sy’n bwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau cymorth, yn ogystal â sefydlu Farmwatch a Horse Watch i ddarparu cyngor atal troseddau gwledig.

O dan ei arweiniad fel CHTh, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau cymorth, yn ogystal â sefydlu Tîm Troseddau Gwledig i gydlynu cynlluniau Farmwatch a Horse Watch i ddarparu cyngor atal troseddau gwledig.