Dennis Clarke

Ymgeisydd ar gyfer Heddlu De Cymru

Dennis Clarke yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

Yn ogystal â bod yn Gynghorydd dros ward Buttrills ar Gyngor Tref y Barri, mae Dennis yn gweithio ym maes cyfraith droseddol, gydag achosion yn amrywio o drais yn y cartref i gyfraith droseddol.

Ef oedd Cadeirydd Bwrdd Llysoedd Caint, Surrey a Sussex ac yn ddiweddarach yn ei oes mae wedi dod yn ymgyrchydd gwrth-lygredd yn y Barri, gan godi ymwybyddiaeth yn benodol am y llygredd a achosir gan losgydd arfaethedig yn y dref. Mae Dennis wedi arfer delio â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, ac yn ei waith mae wedi cynorthwyo aelodau’r cyhoedd i fynd â’u pryderon at Lywodraeth Cymru.

Mae gan Dennis sgiliau rhaglennu ac mae ganddo ddiddordeb yn effaith AI ar blismona.