Donna Cushing

Ymgeisydd ar gyfer Heddlu Gwent

Donna Cushing yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Ar hyn o bryd mae'n cynrychioli ward Hengoed ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae wedi bod yn weithiwr elusennol uchel ei pharch, yn ogystal â bod yn ymgyrchydd dros Hawliau Anabledd. Bydd yn defnyddio ei phrofiad i feithrin ymddiriedaeth rhwng yr Heddlu a’r gymuned, ymladd am gyllid teg i’r heddlu, a gwella cymorth i ddioddefwyr.