Fel rhan o’n ymgyrch #GellirGwell, mae Plaid Cymru yn cynnig aelodaeth am ddim o Plaid Ifanc - Adran Ieuenctid Plaid Cymru - ar gyfer pob person ifanc 14-18 oed yng Nghymru.

Mae Plaid Ifanc yn rhan fywiog, egnïol a gweithgar o’r Blaid, sydd yn chwarae rhan greiddiol yn sicrhau bod ein polisïau yn adlewyrchu anghenion pobl ifanc a bod ein gwaith yn cynrychioli pawb yng Nghymru.

Ymunwch heddiw.