Geraint Benney
Ymgeisydd Cwm Cynon
Soniwch amdanoch eich hun
Geraint yw f’enw, rwyf yn 48 oed ac wedi byw yng Nghwm Cynon gydol f’oes, ac yn falch o’i alw yn gartref.
Actor a chyflwynydd ydw i – ar hyn o bryd yn cyflwyno’r sioe Frecwast ar Jacs radio, gorsaf radio annibynnol sydd a’i chanolfan yn Aberdâr.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Rhoi i bobl Cymru yr annibyniaeth maen nhw’n haeddu.
Beth wnewch chi dros Gwm Cynon petaech yn cael eich ethol?
Rwy’n credu fod ar ein cwm angen llais cryfach yn y Senedd a thrwy sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghwm Cynon, fe wnaf yn siŵr y bydd y llais hwnnw’n cael ei glywed.