Gwnewch Hanes Cymru yn orfodol yn y Cwricwlwm newydd!
Rydym yn galw ar y Gweinidog Addysg i gefnogi gwneud hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd. Llofnodwch y llythyr agored a lobïwch eich Aelod o'r Senedd i gefnogi gwelliannau Plaid Cymru.
Gan lofnodi'r llythyr yma, rydych yn cytuno y gall Plaid Cymru recordio eich barn gwleidyddol a'i ddefnyddio ar gyfer ymgyrchu. Gwelwch ein polisi preifatrwydd yma.
Annwyl Weinidog Addysg,
Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ddysgu am hanes Cymru.
Yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol ond mae cwricwlwm newydd Cymru yn gyfle cyffrous, unwaith mewn oes i newid hynny, gan sicrhau bod Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth yn rhan annatod o addysg pob plentyn.
Felly, dyma alw arnoch i gefnogi gwneud hanes Cymru, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd.
Oni bai ei fod yn orfodol, bydd y patrwm anghyson presennol yn parhau a bydd cyfle unigryw i rymuso pobl ifanc â dealltwriaeth am eu gorffennol, y da a’r drwg, yn cael ei golli. At hynny, rhaid i addysgu am hanes pobl ddu a phobl o liw ddigwydd ym mhob un o'n hysgolion fel rhan hanfodol o ymdrech genedlaethol i ddileu anghydraddoldebau hil systemig, gan ganiatáu i Gymru ddod yn esiampl rhyngwladol o gydraddoldeb mewn byd rhanedig.
Credwn yn gryf fod gan bob plentyn yr hawl i ddeall ei hanes a'i dreftadaeth ac mae dysgu am hanes Cymru yn allweddol i sicrhau fod y genhedlaeth nesaf yn ddinasyddion gwybodus ac ymgysylltiedig - sef un o brif ddibenion y cwricwlwm newydd hwn.
Galwn arnoch felly i roi statws haeddiannol i stori genedlaethol Cymru, yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, ar wyneb y Bil. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod yr addysgu'n cael ei gefnogi'n llawn gan adnoddau a hyfforddiant wrth i'n hanes ddod yn rhan annatod o ffordd newydd Cymru o addysgu a dysgu.
Mae hanes Cymru yn perthyn i holl blant Cymru, ac maent i gyd yn haeddu mynediad cyfartal iddo.