Hugh Kocan
Ymgeisydd Mynwy
Soniwch amdanoch eich hun
Rwy’n 23 oed, wedi fy ngeni a’n magu yn y Fenni. Rwyf wedi astudio ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, gan ganolbwyntio ar economeg ac economi Cymru. Bûm yn ymwneud llawer â’r blaid ers 2015, gan gynnwys gwasanaethu ar bwyllgor Gwaith Cenedlaethol cangen ieuenctid Plaid Cymru.
Cefais fy ysbrydoli gyntaf i ymwneud a gwleidyddiaeth gan Leanne Wood yn ystod etholiad cyffredinol 2015. Gwnaeth ei neges hi, sef y gallai Cymru ffynnu ar waethaf blynyddoedd o frwydro a thangyllido, fy symbylu i ymdrechu tuag at adeiladu Cymru gryfach. Yr uchelgais hon sydd wedi fy annog i sefyll yma yn Sir Fynwy.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Y pwnc pwysicaf un yw ail-godi yn sgil pandemig Covid-19. Bydd y canlyniadau yn bellgyrhaeddol, a byddant yn cael effaith am flynyddoedd i ddod. Mae angen i ni ddysgu gwersi 2020, ail-adeiladu cymdeithas fwy gwydn, a helpu pawb a ddioddefodd i godi’n ôl eto.
Beth wnewch chi dros Fynwy petaech yn cael eich ethol?
Cysylltu yw fy neges i bobl Mynwy.
- Cysylltu trwy ddatblygu economi lleol cryf a chefnogi busnesau ac amaeth lleol yn hytrach na chorfforaethau amlwladol.
- Cysylltu trwy fuddsoddi mewn rhwydwaith trafnidiaeth a redir ar linellau cydweithredol, nid-am-elw.
- Cysylltu trwy wella band llydan ym Mynwy i helpu busnesau i dyfu, ac i annog pobl i weithio’n lleol, yn hytrach nac anelu am Gaerdydd.
- Cysylltu trwy gefnogi cynulliadau dinasyddion a dwyn grym yn nes at y bobl.
- Cysylltu trwy frwydro yn erbyn anghyfartaledd ac anoddefgarwch i greu cymdeithas decach.
- Cysylltu trwy gefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i dai fforddiadwy a gwaith.