Leanne Lewis

Ymgeisydd Pen-y-bont ar Ogwr

Leanne Lewis - Pen-y-bont ar Ogwr

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Cefais fy ngeni ym Mhontypridd a’m magu yng Nghymoedd y Rhondda. Roeddwn yn ffodus i gael addysg cyfrwng Cymraeg, yn gyntaf yn Ysgol Gymraeg Pont Sion Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Bûm yn nyrs ers 26 mlynedd ac yr wyf ar hyn o bryd yn gweithio fel Nyrs Arbenigol yn arbenigo mewn gofal cymhleth i oedolion a’r henoed. Hyfforddais fel Nyrs Oedolion yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg ym Mhontypridd ac euthum i Brifysgolion Morgannwg ac Abertawe. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio i GIG Cymru ac ysbytai yn y de, ac yr wyf wëid gweithio ar y rheng flaen yn cefnogi llawer o safleoedd ysbytai yn ystod y pandemig Covid hwn.

Rwyf wedi byw ym Mhencoed ers 16 blynedd a Phen-y-bont fu fy nghartref ers 2005.

Y tu allan i’r gwaith, mae gen i fywyd prysur fel gwraig a mam. Rwyf hefyd yn fyfyrwraig ôl-radd blwyddyn olaf, yn astudio am radd meistr mewn Cyfraith Feddygol a Moeseg. Rwyf hefyd yn gynghorydd cyngor tref Pencoed yn cynrychioli ward Penprysyg yn y dref.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

I mi, bydd y pum mlynedd nesaf yn fater o ail-godi Cymru wedi pandemig COVID-19. Dioddefodd llawer o’n busnesau lleol golledion enfawr. Mae angen i ni gefnogi, buddsoddi ac adeiladu cwmnïau Cymru yn well nac erioed.

Rhaid i ni gefnogi a galluogi ein trefi a’n pentrefi lleol i ffynnu unwaith eto.

Mae ein GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd wedi eu taro â galwadau na fu erioed mo’u bath trwy gydol y pandemig hwn; am flynyddoedd, mae’r GIG a’r awdurdodau lleol wedi gweld eu cyllid yn cael ei rewi neu ei dorri. Wedi gweithio yn y GIG, gwelais y toriadau a’r fiwrocratiaeth mewn lleoliadau gofal yn uniongyrchol, a’r dinistr a achoswyd i’n cymunedau.

Rwyf eisiau gweld pobl Cymru yn cael gofal o’r radd flaenaf o’r crud i’r bedd. Mae gwaith a gofal rhyfeddol yn cael ei roi gan ein darparwyr gofal cymdeithasol. Gadewch i ni roi i’n poblogaeth oedrannus a’r mwyaf bregus yn ein cymunedau y gofal a’r driniaeth maent yn haeddu. Gadewch i ni wobrwyo’r holl staff rheng-flaen nid â churo dwylo ond â’r arian a’r cyfarpar i gadw ein cymunedau yn ddiogel ac yn iach.

I wneud hyn, rhaid i ni adeiladu ar ein heconomi ein hunain, nid mynd i fegera at San Steffan. Rwyf yn wir yn credu fod gan Gymru y sgiliau, y wybodaeth a’r brwdfrydedd i edrych ar ôl ein materion ein hunain.

Beth wnewch chi dros Ben-y-bont ar Ogwr petaech yn cael eich ethol?

Mae fy mlaenoriaethau yn awr yr un ag y buont erioed. Rwyf eisiau gweld y Pen-y-bont a gerais i fel plentyn yn dref ffyniannus. Rwyf eisiau ysbrydoli gobaith ac uchelgais. Rwyf eisiau gweld pobl ifanc Pen-y-bont yn cael y cyfleoedd gorau posib mewn addysg, swyddi, a thai, ac yr wyf eisiau helpu i greu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno yn gynaliadwy i ofalu am bawb o’r crud i’r bedd.

Rwyf eisiau sicrhau bod ein hamgylchedd, o’r cymoedd i’r arfordir, yn cael ei werthfawrogi a’i warchod.

Rwyf eisiau hyrwyddo a dathlu ein diwylliant unigryw trwy ddathlu ein gorffennol a chroesawu ein dyfodol fel gwlad annibynnol. Rwyf yn wastad wedi ystyried fy rôl fel partneriaeth gyda’r cleifion a’r teuluoedd yr wyf yn eu cefnogi. Petawn i’n cael fy newis i gynrychioli pobl Pen-y-bont, buaswn yn parhau i gynnal yr un ethos gwaith a byddaf yn addo brwydro ac eiriol hyd eithaf fy ngallu i sicrhau bod lleisiau pobl Pen-y-bont yn cael eu clywed yn glir yn y Senedd.