Rhiannon Barrar

Ymgeisydd Dwyrain Abertawe

Rhiannon Barrar - Dwyrain Abertawe

Facebook Twitter

Soniwch amdanoch eich hun

Rwy’n wraig ac yn fam i ddwy ferch. Cefais fy magu yn Nelson, yng Nghwm Taf Bargoed.

Rwyf bellach wedi ymddeol wedi gyrfa faith mewn addysg a olygodd fy modd wedi teithio ledled Ewrop gan gynnwys Portiwgal lle sefydlais ysgol i weithwyr yng nghloddfa Gopr Neves- Corvo.

Hiraeth a’m dygodd yn ôl i Gymru yn 2007 lle’r ymgartrefais gyda ’nheulu yn Abertawe a gweithio i’r Awdurdod Lleol gan ddod yn Ddirprwy Reolwraig y ddarpariaeth Dechrau’n Deg cyfrwng-Cymraeg cyntaf yn Abertawe.

Rwy’n weithredol mewn gwleidyddiaeth leol ac yn aelod o’m cyngor cymuned lleol. Rwyf hefyd yn sylfaenydd ac yn gadeirydd presennol Cyfeillion Parc Singleton. Rwyf yn mwynhau canu a cherdded - gyda ‘ngŵr. Fy nod yw cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd.

Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?

Dosbarthu iechyd a lles yn deg i fod wrth galon holl bolisïau’r llywodraeth.

Dyna beth fydd llywodraeth Plaid Cymru yn wneud: creu cyfoeth i dalu am wasanaethau cyhoeddus, rhannu ffyniant, ymdrin ag anghyfiawnder a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Gyda’r pwerau sydd gennym eisoes, gallwn weithredu’r cynllun Prynu’n Lleol sydd wedi trawsnewid ardaloedd fel Preston. Mae Llywodraeth Geidwadol fethiannus San Steffan yn mynd ati i gymryd y pwerau hyn oddi wrthym. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar frwydro i gadw’r pwerau hyn a mynnu mwy. Trwy ethol Llywodraeth Plaid Cymru, gallwn baratoi’r ffordd am refferendwm ar ymreolaeth. Os llwyddwn i wneud hyn, gallwn wneud llawer mwy i wella ffawd pawb y mae Cymru yn gartref iddynt.

Beth wnewch chi dros Ddwyrain Abertawe petaech yn cael eich ethol?

Byddaf yn dod â deinameg newydd i’r rôl o gynrychioli pobl Dwyrain Abertawe. Bu’r ardal hon unwaith yn fagwrfa diwydiant, arloesedd a diwylliant, a gall fod yn hynny eto. Mae angen Pencampwr Adfywio, i gydgordio ymgynghoriad cyhoeddus eang ar y ffordd ymlaen i Ddwyrain Abertawe. Rhaid i’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn gynnwys plant a phobl ifanc. Mae fy ngyrfa wedi ymwneud erioed â helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial. Mae pobl ifanc a lleisiau ifanc yn hanfodol i’n dyfodol gwleidyddol ac economaidd. Bydd y cyfoeth a grëir yn cael ei ail-fuddsoddi yng Nghymru er lles pobl Cymru.