Tegwch ac uchelgais i Gymru yn 2024

Neges Blwyddyn Newydd gan Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth.

Bydd 2024 yn flwyddyn hollbwysig i ddyfodol Cymru.

Wrth i aelodau’r blaid Lafur baratoi i ethol eu harweinydd nesaf yng Nghymru ac, yn ddiofyn, ein Prif Weinidog nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod sylw’n cael ei roi ar eu record o lywodraethu.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ers etholiadau cyntaf erioed y Senedd yn 1999, mae pobl, a hynny’n ddealladwy, yn awyddus i weld newid yng Nghymru. Awydd dechrau newydd. Dyna pam, ers dod yn Arweinydd, rwyf wedi bod yn benderfynol o ddangos sut mae uchelgais Plaid Cymru ar gyfer Cymru yn ein gosod ar wahân i bob plaid arall.

Ar lefel y DU, rydym wedi dioddef blynyddoedd o reolaeth Geidwadol hunanwasanaethol. Ni all hyn fynd ymlaen. Ond wrth i’r argyfwng costau byw barhau i frathu, mae ofn gwirioneddol y gallai newid llywodraeth yn San Steffan o las i goch wneud fawr ddim i leddfu’r baich ar aelwydydd cyffredin yng Nghymru. Gyda Starmer yn cerdded yng nghysgod Sunak pan ddaw’n fater o’r economi, iechyd a thaclo’r argyfwng hinsawdd, bydd Plaid Cymru yn gweithio’n ddiflino i ddychwelyd y tîm mwyaf posib o ASau i San Steffan i wneud yr achos i’n cenedl gael mwy o reolaeth dros ei dyfodol.

Ein nod yw adeiladu ar record ragorol ein Haelodau Seneddol a pharhau i ddadlau dros i Gymru ddal mwy o bwerau dros yr economi, adnoddau naturiol, lles, ac ynni fel y gallwn ryddhau’r potensial yr ydym i gyd yn gwybod sydd gan ein cenedl.

Pe bai’n cael ei ethol, dyma fyddai’r prawf cyntaf i Keir Starmer yn Brif Weinidog – a yw’n barod i wyro oddi wrth uniongrededd y Torïaid o wadu Cymru ei chyfran deg o gyllid a chydraddoldeb pwerau â’r Alban? Neu a fydd yn troedio llinell San Steffan, gan brofi unwaith eto bod holl bleidiau Llundain yn trin Cymru yr un ffordd?

Yn y Senedd hefyd, bydd llawer o brofion ar gyfer y Prif Weinidog nesaf. Gydag Ymchwiliad Covid y DU yn ymweld â Chymru yn y gwanwyn, bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau o blaid Ymchwiliad Cymreig i roi’r atebion i’r cyhoedd y maent yn eu haeddu – yn enwedig y teuluoedd mewn profedigaeth. Ni ddylid caniatáu i lywodraethau osgoi craffu priodol.

O ran yr economi, iechyd ac addysg, mae yna fynydd i'w ddringo er mwyn sicrhau ffyniant, torri amseroedd aros, a chodi safonau yn ein hysgolion mewn modd sy'n cefnogi athrawon ac yn gadael i ddisgyblion ddysgu hyd eithaf eu gallu.

Er gwaethaf yr heriau, mae Plaid Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Cymru fod. Rwy’n hyderus wrth i Blaid Cymru barhau i rannu ein gweledigaeth o degwch ac uchelgais i Gymru, y bydd mwy a mwy o bobl yn uniaethu â’n neges obeithiol nad dyma’r gorau all bethau fod i Gymru.

Yn ddiweddarach y mis hwn byddaf yn nodi cynlluniau fy mhlaid ar gyfer dyfodol yr economi, yn rhoi’r gorau i fyrhoedledd Llafur, ac yn ei le mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig, gyda golwg ar yr hirdymor - yn mynd i’r afael â heriau tlodi, cyflogau isel, afiechyd a’r diffyg gwydnwch yn ein cymunedau.

Byddai ailosod yn fuddiol i bob un ohonom, a chredaf yn gryf y gallai ailgynllunio'r berthynas rhwng ein gwledydd fod o fudd i bob un ohonom. Ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban, mae San Steffan yn parhau i ddangos diffyg parch tuag at bobl Cymru a’r Alban. Mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn benderfynol o eirioli dros annibyniaeth, a chyflwyno achos perswadiol i'r rhai sy'n chwilfrydig am ei phosibiliadau.

Rhaid i'r flwyddyn newydd hon hefyd fod yn amser i'r gymuned ryngwladol ddyblu ei hymdrechion i sicrhau heddwch ledled y byd. Bydd Plaid Cymru yn parhau i alw am gadoediad yn y Dwyrain Canol i ddod â’r dioddefaint a cholled bywydau diniwed i ben.

Felly dymunaf flwyddyn newydd iach a heddychol ichi oll. Beth am wneud penderfyniad i’n helpu i gyflwyno’r achos dros y Gymru newydd honno, drwy ymuno â Phlaid Cymru? Byddem wrth ein bodd yn eich cael chi’n rhan o’r gwaith.

Nid yw brwydro dros ddyfodol Cymru erioed wedi bod yn fwy o frys, ac mae gwneud pethau gyda’n gilydd yn bwysicach fyth.