Dylai Cymru a gweddill y DU ail-ymuno â’r farchnad sengl i ddadwneud y difrod economaidd a achoswyd gan Brexit, meddai Plaid Cymru.

Wrth siarad ar seithfed mlwyddiant refferendwm Brexit, amlinellodd arweinydd newydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS “camau ymarferol” y gallai Cymru a gweddill y DU eu cymryd ar unwaith i baratoi’r ffordd ar gyfer perthynas agosach â’r UE gan gynnwys:

  • Paratoi i ail-ymuno â'r farchnad sengl
  • Ail-ymuno â chynllun Erasmus
  • Datganoli cynlluniau fisa i Gymru
  • Lleihau rhwystrau ym mhorthladdoedd Cymru
  • Datganoli cynlluniau ariannu

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS fod pobl Cymru wedi cael eu siomi gan “addewidion ffug a gwag” y Torïaid ac anallu Llafur i roi “atebion” ar sut y bydden nhw’n unioni pethau.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru y byddai cynllun pum pwynt Plaid Cymru yn “mynd i’r afael yn uniongyrchol” â methiannau allweddol Brexit gan gynnwys mynd i’r afael â phrinder gweithwyr, lleihau rhwystrau ar fasnach, ac adfer pwerau i’r Senedd ar gyllid datblygu.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn parhau i fod yn “ymroddedig” i’w chred y byddai’n well i Gymru fod yn aelod o’r UE, ond fel mater o frys roedd angen i’r DU ddod yn aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau i ddadwneud y “difrod economaidd ” a achosir gan Brexit ac i roi mwy o arian ym mhocedi pobl yn ystod yr argyfwng cost-byw hwn.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS,

“Saith mlynedd yn ddiweddarach ac mae realiti economaidd Brexit yn glir i bawb ei weld.

“Mae chwyddiant yn uwch yn y DU nag mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae costau mewnforio yn uwch. Mae yna brinder gweithwyr mewn sectorau allweddol fel y gwasanaeth iechyd, lletygarwch a thwristiaeth. Mae ffatrïoedd fel 2Sisters yn fy etholaeth i yn Ynys Môn wedi cael eu gorfodi i gau – gan arwain at golli dros 700 o swyddi.

“Rhagamcanir y bydd Brexit yn lleihau gwerth allforion Cymru tua £1.1bn.

“Mae pobl Cymru wedi cael eu gadael eu lawr gan addewidion ffug a gwag y Torïaid. Y Torïaid sy’n gyfrifol am y cyflwr enbyd y mae ein heconomi bellach ynddo.

“Yn y cyfamser, mae Llafur yn wynebu’r ddwy ffordd – yn cilio rhag yr effaith mae Brexit yn ei chael ar yr economi ac yn methu – neu’n anfodlon – rhoi unrhyw atebion ar sut y bydden nhw’n unioni pethau.

“Byddai cynllun pum pwynt Plaid Cymru yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â methiannau Brexit gan gynnwys mynd i’r afael â phrinder gweithwyr a bylchau sgiliau, lleihau rhwystrau a biwrocratiaeth ar gynnyrch bwyd, ac adfer pwerau dros gyllid ar ôl Brexit i’r Senedd.

“Mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fod eisiau’r cysylltiadau agosaf â phosibl ag Ewrop ac yn credu bod aelodaeth o’r UE – ac yn parhau i fod – er lles gorau Cymru. Ond o leiaf rhaid inni ddod yn aelodau o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau ar fyrder nid yn unig i ddad-wneud y difrod economaidd a achoswyd gan Brexit San Steffan ond hefyd i roi mwy o arian ym mhocedi pobl Cymru ar adeg pan fo’i angen arnynt y mwyaf.


1. Paratoi i ailymuno â'r farchnad sengl

Dylai Llywodraeth y DU alinio safonau diogelwch bwyd a milfeddygol â’r UE i leihau rhwystrau a sicrhau llif llyfn o gynhyrchion amaethyddol a bwyd. Byddai cytundeb Cyfwerthedd Glanweithdra a Ffytoiechydol (SPS) a milfeddygol newydd gyda’r UE yn lleddfu costau i fusnesau, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer ailymuno â’r farchnad sengl.

2. Dod â chyfleoedd yn ôl i bobl ifanc

Dylai’r DU ailymuno ag Erasmus a thrafod cynlluniau fisa symudedd ieuenctid i alluogi pobl ifanc i deithio, gweithio ac ennill profiad yn y DU a gwledydd yr UE. Byddai hyn yn cyfnewid diwylliannol, yn gwella cyfleoedd, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru.

3. Datganoli cynlluniau fisa i Gymru

Dylem roi’r gallu i’r llywodraethau datganoledig reoli ein cynlluniau fisa ein hunain, gan gynnwys creu rhestr galwedigaeth oherwydd prinder. Byddai hyn yn mynd i’r afael â phrinder gweithwyr penodol yng Nghymru ac yn denu gweithwyr medrus o’r UE, gan gyfrannu at dwf economaidd a mynd i’r afael â bylchau sgiliau.

4. Lleihau rhwystrau ym mhorthladdoedd Cymru

Gallai’r DU wella prosesau ffiniau a thollau ar unwaith mewn porthladdoedd fel Caergybi ac Abergwaun, drwy weithredu system un ffenestr ar gyfer mewnbynnu data masnach a digideiddio prosesau mewnforio ac allforio. Mae'r mesurau hyn yn symleiddio masnach, yn lleihau beichiau gweinyddol, ac yn gwella effeithlonrwydd symudiadau trawsffiniol.

5. Datganoli cynlluniau ariannu

Adfer pwerau datganoledig dros gyllid datblygu i rymuso Llywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mlaenoriaethau Cymru. Dylai Llywodraeth y DU gymryd camau ar unwaith i adfer yr egwyddor o ddyrannu cyllid ar sail angen cymharol. Byddai’r dull hwn nid yn unig yn adfer parch mewn datganoli ond byddai hefyd yn lleddfu’r beichiau a wynebir gan awdurdodau lleol, sydd ar hyn o bryd yn ysgwyddo’r pwysau aruthrol o gydgysylltu ceisiadau am arian./